Prosectiau CAMS

A ydych chi’n fusnes bach neu ganolig sy’n gweithio yng Nghymru?

SEACAMS

CAMS yw pencadlys y project SEACAMS, a all rhoi cymorth i fusnesau bach a chanolig yn y sector morol, naill ai fel cymorth tymor byr ar faterion penodol a/neu brojectau ymchwil cydweithredol hirach.

Os ydych wedi’ch lleoli yn ardal cydgyfeiriant Cymru, neu’n ystyried gweithredu yn yr ardal hon, dilynwch y cyswllt i SEACAMS i gael rhagor o wybodaeth

ERDF: Cronfa Datblugu Rhanbarthol Ewrop

Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol

Croeso i’r Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol (CAMS)

Cynyddu effaith ymchwil morol: Mae CAMS yn cysylltu ymchwil academaidd gyda’i ddefnyddio yn y byd go iawn; caiff pob un o’n projectau eu diffinio gan anghenion y defnyddiwr terfynol ac mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio’n gyflym i faterion penodol.

Arbenigedd Gwyddorau Môr: Mae gennym dros 30 o staff penodedig brojectau penodol, rydym hefyd yn defnyddio sgiliau amlddisgyblaethol dros 100 aelod o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, un o’r canolfannau gwyddor môr academaidd mwyaf yn Ewrop.

Mynediad at Adnoddau Arbenigol: gallwn roi mynediad at ystod eang o gyfleusterau ac offer arbenigol, labordai, cyfleusterau cyfrifiadurol ynghyd â’r llong ymchwil Prince Madog a nifer o gychod llai.

Ymchwil ar y cyd: Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn diwydiant, asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol a’r llywodraeth mewn nifer o wahanol gysylltiadau yn cynnwys rhaglenni strategol, ymchwil ar y cyd, ymchwil contract ac ymgynghori.

Mae CAMS yn cynnwys yr isadrannau arbenigol canlynol:

Cysylltwch â CAMS os oes gennych ddiddordeb mewn:

  • Ymchwil Contract
  • Rhaglenni ymchwil ar y cyd
  • Hyfforddiant
  • Mentrau cefnogi busnesau