Cyfarwyddiadau

Lleolir yr isadran weinyddol ar Ynys Faelog, ger y Labordai Morol ym Mhorthaethwy. Parciwch yn y maes parcio cyhoeddus ac ewch i lawr Stryd Askew, heibio'r prif adeiladau hyd nes y dewch i'r gyffordd gyda Ffordd San Siôr. Croeswch y gyffordd ac ewch i lawr y grisiau at y llwybr cerdded. Cerddwch ar hyd y llwybr cerdded draw at Ynys Faelog

Byddwch yn ofalus wrth gerdded ar hyd y llwybr.

Pan gyrhaeddwch yr ynys ewch drwy'r giât fach ac ar hyd y llwybr heibio'r bwthyn gwyn. (Anwybyddwch yr arwydd "Preifat", y brifysgol sydd â'r hawl tramwy.) Cadwch at y llwybr hyd at ochr ogleddol yr ynys. Mae CAMS wedi'i leoli yn y byngalo dormer, ewch i mewn drwy'r drysau gwydr allanol a dilynwch y coridor i'r dderbynfa.